AcenGrom/ Circumflex

AcenGrom Circumflex

Dyma linc i "extension" Acen Grom ar gyfer cyfrifiaduron "Chromebook" .

Acen Grom

Mae angen llwytho'r "extension" h.y. Add to Chrome ac yna:

Dewis "Settings" ar y Chromebook.

Dewis "Advanced"

Dewis "Languages and input"

Clicio "Languages and Input"

Dewis "Manage Input Methods"

Dewis "Acen Grom"

Dychwelyd at "Languages and input"

Clicio "Acen Grom" i'w ddewis.

Cau "settings."

(Mae cyfarwyddiadau google yn fwy eglur/addas efallai.)

Noder

Mi fyddwn yn falch petaech yn gallu arbrofi efo hwn, gan nad oes gen i "Chromebook" fy hun ar gyfer arbrofi.

Mae'r dull defnyddio ychydig yn wahanol i feddalwedd tebyg ar MS Windows. Mae angen pwyso a gollwng "alt gr" yna pwyso'r llafariad perthnasol. h.y. pwyso "alt gr" a llafariad bob yn ail, nid dal i bwyso "alt gr".

Mae estyniad "Acen Grom" yn defnyddio "alt gr" fel allwedd segur (dead key)

Edrychaf ymlaen at dderbyn unrhyw sylwadau. nubotix@gmail.com

Dwi wedi creu fersiwn arall - Acen Grom Olnod sy'n defnyddio "Backquote" (neu olnod) fel addaswr (Modifier) mwy traddodiadol petai hyn yn fwy derbyniol.

Dull gweithredu Acen Grom Olnod :

Dal bwyso "Backquote" ac yn pwyso y llafariad perthnasol i greu y llafariad efo'r acen grom.

Roedd fersiwn 1.1 "Acen Grom" yn gwrthod gweithio ar gyfer llythrennau breision. Mae hyn wedi ei gywiro yn fersiwn 1.2 .

Mi fyddai angen rhagor o waith i alluogi'r allwedd "alt gr" i ymddwyn fel y mae yn Windows. Ymatebwch os hoffech i mi wneud hyn.

Mi fyddai'n ddelfrydol creu "input method" gyflawn o "allweddel Gymraeg" ar gyfer Chromebook. Prosiect tymor hir efallai.

Dafydd Roberts, Medi 06, 2020